Yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf bydd yr awduron, beirdd, dramodwyr a darlithwyr ffilm o’r Brifysgol Agored yn cynnal cyfres o weithdai rhyngweithiol i ysbrydoli darpar nofelwyr, beirdd, sgriptwyr a chyfarwyddwyr.
Bydd y gyfres o weithdai yn gorffen gyda dathliad lle bydd cyfranogwyr yn derbyn tystysgrif am gymryd rhan a chyngor am gyfleoedd dysgu pellach a all helpu gyda gyrfa yn y diwydiannau creadigol..
Cynhelir y rhaglen chwe wythnos o 13 Mehefin i 18 Gorffennaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Mercher 13 Mehefin 11am – 1pm
Mercher 20 Mehefin 11am – 1pm
Mercher 27 Mehefin 11am – 1pm
Mercher 4 Gorffennaf 11am – 1pm - egwyl – cinio bwffe am ddim yna 2pm - 4pm
Mercher 11 Gorffennaf wythnos o seibiant i gwblhau tasg astudio annibynnol
Mercher 18 Gorffennaf 11am – 1pm Dathliad / Camau nesaf
I ddarganfod mwy a chadw eich lle cysylltwch â:
Rhiannon Williams yng Nghanolfan Mileniwm Cymru 029 2063 4637
Explore our qualifications and courses by requesting one of our prospectuses today.