Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu ein pen-blwydd yn 50, cewch wybod mwy am ddechreuad y Brifysgol Agored ac edrych yn ôl ar y newid a fu yn ein haddysgu dros y 50 mlynedd diwethaf.
Cewch weld deunydd o’n harchifau ac enghreifftiau o’r offer a yrrwyd at y disgyblion yn ystod y dyddiau cynnar megis microsgopau, pecynnau gwyddonol a chyfrifiaduron!
Bydd cyfle i ddarganfod mwy am sut a pham y sefydlwyd y Brifysgol Agored, a sut rydym wedi parhau i arloesi dros y pum degawd diwethaf.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniad gan ein llyfrgellydd, Amanda Closier, a bydd cyfle am drafodaeth ac i ofyn cwestiynau. Mae’r digwyddiad yn agored i bawb, ac rydym yn awyddus i groesawu myfyrwyr y Brifysgol Agored, alumni a thiwtoriaid presennol a blaenorol.
Mae’r digwyddiad hwn am ddim ond mae angen archebu. Cofrestrwch nawr trwy Eventbrite.
Explore our qualifications and courses by requesting one of our prospectuses today.