
Mae fersiynau gwahanol o ganllaw cyfeirnodi Harvard ar gael. Mae'r canllaw hwn yn rhoi cyflwyniad byr i'r fersiwn fwyaf cyffredin o Cite Them Right a ddefnyddir. Mae rhagor o ganllawiau ar gael ar Gronfa ddata Cite Them Right .
Er mwyn cael mwy o gymorth gyda chyfeirnodi a dolenni ar gyfer y canllawiau arddull a ddefnyddir yn Y Brifysgol Agored, edrychwch ar dudalen y Llyfrgell ar gyfeirnodi a llên-ladrad. Os bydd angen arweiniad arnoch ynglŷn â chyfeirnodi deunydd modiwlau'r Brifysgol Agored, gallwch edrych ar ba adrannau o Cite Them Right a argymhellir wrth gyfeirnodi deunydd modiwl ffisegol ac ar-lein.
Nid yw'r canllaw hwn yn gymwys i fyfyrwyr israddedig Y Brifysgol Agored sy'n astudio'r Gyfraith.. Os ydych yn astudio modiwl sy'n dechrau ag W1xx, W2xx neu W3xx, dylech gyfeirio at y Canllaw cyflym ar gyfeirnodi Cite Them Right ar gyfer modiwlau'r Gyfraiths.
Mae cyfeirnodi gan ddefnyddio arddull Cite Them Right Harvard yn cwmpasu dwy elfen:
Edrychwch ar yr enghraifft hon o aseiniad ar Cite Them Right i weld enghreifftiau o gyfeiriadau yng nghanol y testun ac enghraifft o restr cyfeiriad llawn.
dim ond ffynonellau rydych wedi cyfeirio atynt yng nghorff eich testun y mae rhestr cyfeiriadau yn eu cynnwys.
mae llyfryddiaeth yn cynnwys ffynonellau rydych wedi cyfeirio atynt yng nghorff eich testun A ffynonellau a fu'n rhan o'ch darllen cefndir nas defnyddiwyd yn eich asesiad.
Mae'r rhan fwyaf o fodiwlau'r Brifysgol Agored yn ei gwneud yn ofynnol i chi gynnwys rhestr cyfeiriadau yn unig – os bydd angen i chi gynnwys llyfryddiaeth, caiff hyn ei nodi'n glir yng nghanllaw eich aseiniad.
Mae angen i chi gynnwys cyfeiriad yng nghanol y testun lle bynnag rydych yn dyfynnu, yn crynhoi neu'n aralleirio ffynhonnell. Mae cyfeiriad yng nghanol y testun yn cynnwys enw olaf yr awdur(on), y flwyddyn gyhoeddi, a rhif tudalen neu baragraff os yw'n berthnasol (gweler yr adran Rhifau tudalennau am ragor o wybodaeth).
Mae sawl ffordd o ymgorffori cyfeiriadau yng nghanol y testun yn eich gwaith – ceir rhai enghreifftiau isod.
Gallwch weld enghreifftiau pellach o nodi cyfeiriadau yng nghanol y testun yn Cite Them Right.
| Un awdur | Dau awdur | Tri awdur | Pedwar neu fwy o awduron |
|---|---|---|---|
|
Pwysleisiwyd bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig (Harris, 2015). NEU Pwysleisiwyd gan Harris (2015) bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig. |
Pwysleisiwyd (gan Shah a Papadopoulos, 2015) bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig. NEU Pwysleisiodd Shah a Papadopoulos (2015) fod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig. |
Pwysleisiwyd bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig (Wong, Smith ac Adebole, 2015). NEU Pwysleisiodd Wong, Smith ac Adebole (2015) fod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig. |
Pwysleisiwyd bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig (Wong et al., 2015). NEU Pwysleisiodd Wong et al. (2015) fod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig. |
| Ffynonellau heb ddyddiad | Os na roddir y dyddiad cyhoeddi, defnyddir yr ymadrodd 'dim dyddiad' yn lle dyddiad yn y cyfeiriad yng nghanol y testun a'r cyfeiriad llawn. Enghraifft: Mewn arolwg diddorol am gyfranogiad pobl ifanc at chwaraeon, gwnaeth yr awduron (Harvey and Williams, dim dyddiad) ... |
|---|
| Rhifau tudalennau |
|---|
|
Dylech gynnwys rhifau tudalennau yn eich cyfeiriad os ydych yn dyfynnu'n uniongyrchol neu'n, aralleirio, o dudalen benodol neu set benodol o dudalennau neu'n defnyddio syniadau o dudalen benodol neu set benodol o dudalennau. Nid oes angen i chi gynnwys rhifau tudalennau os ydych yn crynhoi (darparu trosolwg byr o'r prif bynciau neu bwyntiau) ffynhonnell gyfan, e.e. pennod neu erthygl gyfan mewn llyfr. Ychwanegwch y byrfodd t. (neu tt. os oes mwy nag un dudalen) cyn rhif y dudalen/rhifau'r tudalennau. If your source does not have page numbers (for example, a webpage) then you could include a paragraph number instead if possible. Add the abbreviation para. before the paragraph number(s). Enghreifftiau: Mae Harris (2015, t. 5) yn dadlau ... Yn y broses sychu mae "adweithiau ocsideiddio polyffenol" yn ffurfio cyfansoddion blas newydd (Toker et al., 2020, tt. 585–586)... Cam cyntaf y broses o gynllunio i chwilio am lenyddiaeth yw diffinio eich cwestiwn ymchwil (Llyfrgell Y Brifysgol Agored, 2025, para. 3). |
| Cyfeirnodi eilaidd |
|---|
|
Rydych yn defnyddio cyfeirnodi eilaidd os ydych am gyfeirio at ffynhonnell nad ydych wedi ei darllen, a grybwyllir neu a ddyfynnir yn y gwaith rydych yn ei ddarllen. Er mwyn gwneud hyn, rydych yn ychwanegu'r ymadrodd ‘dyfynnwyd yn’ neu ‘cyfeiriwyd ato yn’ (yn dibynnu a yw awdur y ffynhonnell eilaidd yn dyfynnu'n uniongyrchol o'r ffynhonnell wreiddiol neu'n ei chrynhoi ) at eich cyfeiriad yng nghanol y testun, ynghyd â manylion y ffynhonnell rydych yn ei darllen. Enghreifftiau o gyfeirnodi yng nghanol y testun: Mae West et al. (2007, a ddyfynnwyd yn Birch, 2017, t. 17) yn nodi bod… Byddai eich cyfeiriad llawn yn eich rhestr cyfeiriadau yn berthnasol i'r ffynhonnell/ffynonellau rydych wedi ei darllen/eu darllen mewn gwirionedd – yn yr enghreifftiau hyn, byddai'r cyfeiriadau llawn yn cyfeirio at y gweithiau gan Birch a'r Brifysgol Agored. Nid oes unrhyw newid i strwythur y cyfeiriad llawn ar gyfer y ffynonellau hyn. |
| Cyfeirio at ffynonellau a gyhoeddwyd yn yr un flwyddyn gan yr un awdur |
|---|
|
Ychwanegwch lythyren fach at y dyddiad yn y cyfeiriad yng nghanol y testun ac yn y cyfeiriad llawn cyfatebol er mwyn gwahaniaethu rhwng y ffynonellau. Enghraifft: Cyfeiriadau yng nghanol y testun: Mae eira yn ymffurfio'n rhannol am fod y tymheredd yn gostwng ddigon nes bod glaw yn rhewi (Y Brifysgol Agored, 2025a), ond mae rhewbwynt dŵr yn aml islaw 0°C o dan amodau penodol (Y Brifysgol Agored, 2025b). Matching full references: Y Brifysgol Agored (2025a) '1.2 What are clouds?'. S111: Questions in science. Ar gael yn: https://learn2.open.ac.uk/mod/oucontent/view.php?id=2409631§ion=3 (Cyrchwyd: 19 Awst 2025). Y Brifysgol Agored (2025b) '1.3.1 Snow and ice'. S111: Questions in science. Ar gael yn: https://learn2.open.ac.uk/mod/oucontent/view.php?id=2409631§ion=4.1 (Cyrchwyd: 19 Awst 2025). Noder: mae hyn ond yn gymwys os ydych yn defnyddio sawl ffynhonnell wahanol sydd â'r un awdur a'r un flwyddyn – os ydych yn cyfeirio at yr un ffynhonnell fwy nag unwaith, yna, nid oes angen i chi ychwanegu llythyren at y dyddiad. Bydd y cyfeiriad yr un fath bob tro a dim ond unwaith y bydd angen i chi gynnwys y ffynhonnell yn eich rhestr cyfeiriadau. |
| Awduron corfforaethol |
Os yw ffynhonnell wedi cael ei chreu gan gorff corfforaethol (e.e. cwmni, adrannau'r llywodraeth, prifysgol ac ati.) defnyddiwch enw'r corff hwnnw fel yr awdur yn y cyfeiriad yng nghanol y testun a'r cyfeiriad llawn. Enghreifftiau o gyfeirnodi yng nghanol y testun: Yn wreiddiol, dim ond safleoedd sy'n dyddio o'r cyfnod cyn hanes neu'r cyfnod canoloesol oedd yn cael eu hystyried yn safleoedd ‘treftadaeth’ (English Heritage, 2024). Gydag enwau corfforaethol hirach, gallwch ddefnyddio llythrennau cyntaf yr enw fel acronym yn eich cyfeiriadau yng nghanol y testun. Dylech ysgrifennu'r enw yn llawn y tro cyntaf y byddwch yn ei ddefnyddio a defnyddio'r talfyriad yn eich cyfeiriad, gan fod hyn yn nodi ystyr y llythrennau cyntaf yn glir. Enghreifftiau o gyfeirnodi yng nghanol y testun: Mae cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig (Y Brifysgol Agored (BA), 2024). Yn yr enghraifft hon, byddai unrhyw gyfeiriad dilynol at Y Brifysgol Agored neu'r United Nations Framework Conference of Climate Change yn defnyddio'r talfyriadau'r BA neu UNFCCC. Byddai'r cyfeiriadau llawn yn defnyddio enwau llawn y corfforaethau, nid y talfyriadau. |
|---|
| Lle nad oes awdur wedi'i enwi |
Lle nad oes awdur wedi'i enwi na chorfforaeth i'w defnyddio yn eich cyfeiriad yng nghanol y testun a'ch cyfeiriad llawn, defnyddiwch deitl yr adnodd mewn print italig. Enghreifftiau o gyfeirnodi yng nghanol y testun: Pwysleisiwyd bod cyfeirnodi da yn sgìl academaidd bwysig (Information Literacy in Higher Education, 2015). Yna, byddwch yn defnyddio teitl yr adnodd (mewn print italig) yn lle'r awdur yn y cyfeiriad llawn. |
|---|
Enghraifft o un awdur:
Almeroth-Williams, T. (2019) City of beasts: how animals shaped Georgian London. Manchester University Press.
RSPCA (2024) Caring for cats and kittens. Ar gael yn: https://www.rspca.org.uk/adviceandwelfare/pets/cats (Cyrchwyd: 1 Awst 2024).
Lle mae sawl awdur, dylech eu cynnwys yn eich cyfeiriadau yn y drefn y maent yn ymddangos – ni ddylech geisio eu haildrefnu.
Enghraifft o ddau neu dri awdur:
Grayling, A. a Ball, B. (2024) 'Philosophy is crucial in the age of AI', The Conversation, 1 Awst. Ar gael yn https://theconversation.com/philosophy-is-crucial-in-the-age-of-ai-2359 (Cyrchwyd: 1 Awst 2024)
Chu, M., Leonard, P. a Stevenson, F. (2012) 'Growing the base for citizen science: recruiting and engaging participants', yn J.L. Dickinson a R. Bonney (gol.) Citizen science: public participation in environmental research. Cornell University Press, tt. 69-81.
Enghraifft o bedwar neu fwy o awduron:
NEU
Young, H.D. et al. (2015) Sears and Zemansky's university physics. Addison-Wesley.
Noder: Gallwch ddewis y naill ddull neu'r llall wrth gyfeirio at bedwar awdur neu fwy a dylech fod yn gyson.
(Yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gynnwys modiwl ar-lein ysgrifenedig, gweithgareddau modiwl ar-lein ysgrifenedig, deunydd clyweledol megis tiwtorialau, recordiadau neu fideos ar-lein, a rhestrau termau.)
Wrth gyfeirio at ddeunydd o wefannau modiwl, y flwyddyn gyhoeddi yw'r flwyddyn y gwnaethoch ddechrau astudio'r modiwl.
Cyfenw, Blaenlythyren. (Y flwyddyn gyhoeddi/gyflwyno) 'Teitl yr eitem'. y modiwl: Teitl y modiwl. Ar gael yn: URL VLE (Cyrchwyd: dyddiad).
NEU, os nad oes awdur a enwyd:
Y Brifysgol Agored (Y flwyddyn gyhoeddi/gyflwyno) 'Teitl yr eitem'. Cod y modiwl: Teitl y modiwl. Ar gael yn: URL VLE (Cyrchwyd: dyddiad).
Enghreifftiau:
Rietdorf, K. a Bootman, M. (2024) 'Topic 3: rare diseases'. S290: Investigating human health and disease. Ar gael yn: https://learn2.open.ac.uk/mod/oucontent/view.php?id=2332940 (Cyrchwyd: 24 Ionawr 2025).
Y Brifysgol Agored (2025) ‘4 What makes a system secure?’. TM256: Cyber security. Ar gael yn: https://learn2.open.ac.uk/mod/oucontent/view.php?id=2426934§ion=5 (Cyrchwyd: 5 Mawrth 2025).
Gallwch hefyd ddefnyddio'r templed hwn i gyfeirio at fideos a recordiadau sain sy'n cael eu gwe-letya ar wefan eich modiwl:
Y Brifysgol Agored (2024) ‘Video 2.7 an example of a Frith-Happé animation’. SK298: Brain, mind and mental health. Ar gael yn: https://learn2.open.ac.uk/mod/oucontent/view.php?id=2369655§ion=4.9… (Cyrchwyd: 22 Tachwedd 2024).
Y Brifysgol Agored (2025) ‘Audio 2 interview with Richard Sorabji (Part 2)’. A113: Revolutions. Ar gael yn: https://learn2.open.ac.uk/mod/oucontent/view.php?id=2416714§ion=5.6 (Cyrchwyd: 12 Chwefror 2025).
Noder: os oes erthygl gyflawn o gyfnodolyn wedi cael ei lanlwytho i wefan modiwl, neu os ydych wedi gweld erthygl y cyfeirir ati ar y wefan ac yna wedi cyrchu'r fersiwn wreiddiol, yna cyfeiriwch at yr erthygl wreiddiol yn y cyfnodolyn, a pheidiwch â chrybwyll deunyddiau'r modiwl. Os mai dim ond darn o erthygl sydd wedi cael ei gynnwys yn neunyddiau eich modiwl rydych am gyfeirio ato, dylech ddilyn y canllawiau ar gyfer dyfyniadau ar y dudalen cyfeirio at ddeunyddiau ffisegol a deunyddiau ar-lein.
Cyfenw, Blaenlythyren. (Y flwyddyn gyhoeddi) 'Teitl y neges', Teitl y bwrdd trafod , yn Cod y modiwl: Teitl y modiw. Ar gael yn: URL VLE (Cyrchwyd: dyddiad).
Enghraifft:
O'Mahony, N. (2024) ‘How the course works’, Welcome forum, yn A215: Creative writing. Ar gael yn: https://learn2.open.ac.uk/mod/forumng/discuss.php?d=4749155 (Cyrchwyd: 24 Ionawr 2025).
Noder: Pan fydd e-lyfr yn edrych yn debyg i lyfr argraffedig, gyda manylion cyhoeddi a thudalennau, dylid cyfeirnodi fel llyfr argraffedig.
Cyfenw, Blaenlythyren. (Y flwyddyn gyhoeddi) Teitl y llyfr . Argraffiad os yw ar ôl yr argraffiad cyntaf. Cyhoeddwr. Rhif y gyfres a rhif y gyfrol os ydynt yn berthnasol.
E-lyfrau nad ydynt yn cynnwys manylion cyhoeddi:
Cyfenw, Blaenlythyren. (Y flwyddyn gyhoeddi) Teitl y llyfr. Ar gael yn: DOI neu URL (Cyrchwyd: dyddiad).
Enghreifftiau:
Bell, J. (2014) Doing your research project. Open University Press.
Adams, D. (1979) The hitchhiker's guide to the galaxy. Ar gael yn: http://www.amazon.co.uk/kindle-ebooks (Cyrchwyd: 23 Mehefin 2021).
Noder: Llyfrau sydd â golygydd, neu olygyddion, lle mae pob pennod wedi'i hysgrifennu gan awdur neu awduron gwahanol.
Cyfenw awdur y bennod, Blaenlythyren. (Y flwyddyn gyhoeddi) 'Teitl y bennod neu'r adran', yn Blaenlythyren. Cyfenw golygydd y llyfr, (gol.) Teitl y llyfr . Argraffiad os yw ar ôl yr argraffiad cyntaf. cyhoeddwr, Cyfeirnod tudalen.
NEU os yw'r ffynhonnell ar-lein a heb rifau tudalennau:
Cyfenw awdur y bennod, Blaenlythyren. (Y flwyddyn gyhoeddi) 'Teitl y bennod neu'r adran', yn Blaenlythyren. Cyfenw golygydd y llyfr, (gol.) Teitl y llyfr. Argraffiad os yw ar ôl yr argraffiad cyntaf. Cyhoeddwr. Ar gael yn: DOI neu URL (Cyrchwyd: dyddiad).
Enghreifftiau:
Franklin, A.W. (2012) 'Management of the problem', yn S.M. Smith (gol,) The maltreatment of children. MTP, tt. 83–95.
Dué C., Lupack S. a Lamberton R. (2020) ‘Homer in a world of song’, yn C.O. Pache (gol.) The Cambridge guide to Homer: part I - Homeric song and text. Cambridge University Press. Ar gael yn: https://www-cambridge-org.libezproxy.open.ac.uk/core/books/cambridge-gu… (Cyrchwyd: 27 Awst 2025).
Olby, R. (2014) ‘Crick, Francis Harry Compton (1916–2004)’, yn Oxford dictionary of national biography. argraffiad Ar-lein. Oxford University Press. Ar gael yn: https://doi.org/10.1093/ref:odnb/93883.
Noder: Wrth gyfeirio at bennod mewn llyfr golygedig, dylai eich cyfeiriad yng nghanol y testun nodi awdur(on) y bennod.
Cyfenw, Blaenlythyren. (Y flwyddyn gyhoeddi) 'Teitl yr erthygl', Teitl y Cyfnodolyn , rhif y gyfrol (rhifyn), cyfeirnod tudalen.
Noder: defnyddiwch briflythyren ar ddechrau pob gair yn nheitl y cyfnodolyn, oni bai am eiriau cyswllt fel a, ac, o, y, yr, ar gyfer.
Os oes cyfnodolyn wedi cael ei gyrchu ar-lein:
Cyfenw, Blaenlythyren. (Y flwyddyn gyhoeddi) 'Teitl yr erthygl', Teitl y Cyfnodolyn , rhif y gyfrol (rhifyn), cyfeirnod tudalen. Ar gael yn: DOI neu URL (Cyrchwyd: dyddiad).
Noder: defnyddiwch briflythyren ar ddechrau pob gair yn nheitl y cyfnodolyn, oni bai am eiriau cyswllt fel a, ac, o, y, yr, ar gyfer.
Enghreifftiau:
Sridhar, S. (2025) 'Constructive peer review made practical: a guide to the EMPATHY framework', Journal of Marketing, 89(3), tt. 1-12.
Erbil, D.G. (2020) ‘A review of flipped classroom and cooperative learning method within the context of Vygotsky theory’, Frontiers in Psychology, 11, erthygl 1157. Ar gael yn: https://www.frontiersin.org/article/10.3389/fpsyg.2020.01157 (Cyrchwyd: 6 Mai 2024).
Barke, M. a Mowl, G. (2016) 'Málaga – a failed resort of the early twentieth century?', Journal of Tourism History, 2(3), tt. 187–212. Ar gael yn: https://doi.org/10.1080/1755182X.2010.523145.
Cyfenw, Blaenlythyren. (Y flwyddyn gyhoeddi) 'Teitl yr erthygl', Teitl y Papur Newydd, Dydd a mis, Rhif y tudalen.
Noder: defnyddiwch briflythyren ar ddechrau pob gair yn nheitl y cyfnodolyn, oni bai am eiriau cyswllt fel a, ac, o, y, yr, ar gyfer.
Cyfenw, Blaenlythyren. (Y flwyddyn gyhoeddi) 'Teitl yr erthygl', Teitl y Papur Newydd, Dydd a mis, Rhif y dudalen os yw ar gael. Ar gael yn: URL (Cyrchwyd: dyddiad).
Noder: defnyddiwch briflythyren ar ddechrau pob gair yn nheitl y cyfnodolyn, oni bai am eiriau cyswllt fel a, ac, o, y, yr, ar gyfer.
Enghreifftiau:
Mansell, W. a Bloom, A. (2012) ‘£10,000 carrot to tempt physics experts’, The Guardian, 20 Mehefin, t. 5.
Davis, N (2025) 'Scientists claim to have unlocked ‘secret sauce’ needed for fine chocolate', The Guardian, 18 Awst. Ar gael yn: https://www.theguardian.com/science/2025/aug/18/scientists-claim-to-hav… (Cyrchwyd: 19 Awst 2025).
Cyfenw, Blaenlythyren. (Y flwyddyn y cafodd y wefan ei chyhoeddi/ei diweddaru ddiwethaf) Teitl y dudalen we. Ar gael yn: URL (Cyrchwyd: dyddiad).
Trefn (Y flwyddyn y cafodd y dudalen ei diweddaru ddiwethaf) Teitl y dudalen we. Ar gael yn: URL (Cyrchwyd: dyddiad).
Enghreifftiau:
Robinson, J. (2007) Social variation across the UK. Ar gael yn: https://www.bl.uk/british-accents-and-dialects/articles/social-variatio… (Cyrchwyd: 21 Tachwedd 2021).
Cymdeithas Seicolegol Prydain (2018) Code of ethics and conduct. Ar gael yn: https://www.bps.org.uk/news-and-policy/bps-code-ethics-and-conduct (Cyrchwyd: 22 Mawrth 2019).
Noder: Mae Cite Them Right Online yn cynnig canllawiau ar gyfeirnodi tudalennau gwe nad ydynt yn cynnwys enwau awduron na dyddiadau. Fodd bynnag, byddwch yn wyliadwrus iawn ynglŷn ag addasrwydd tudalennau gwe o'r fath.
Ffotograffydd (Blwyddyn) Teitl y ffotograff. Ar gael yn: URL (Cyrchwyd: dyddiad).
Llun sy'n rhan o gasgliad ar-lein (e.e. cronfa ddata y llyfrgell):
Ffotograffydd (Blwyddyn) Teitl y ffotograff [Cyfrwng]. Ar gael yn: DOI neu URL (Cyrchwyd: dyddiad).
Llun sydd wedi cael ei lawrlwytho o gyfryngau cymdeithasol:
Ffotograffydd (Blwyddyn) Teitl y ffotograff [enw'r safle cyfryngau cymdeithasol]. Ar gael yn: URL (Cyrchwyd: dyddiad).
Enghreifftiau:
Kitton, J. (2013) Golden sunset. Ar gael yn: https://www.jameskittophotography.co.uk/photo_8692150.html (Cyrchwyd: 21 Tachwedd 2021).
Frazier, D.R. (2016) The Colosseum in Rome, Italy [Photograph]. Ar gael yn: https://quest-eb-com.libezproxy.open.ac.uk/images/search/colosseum/deta… (Cyrchwyd: 1 Medi 2025).
stanitsa_dance (2021) Ensemble dawns Cosac [Instagram]. Ar gael yn: https://www.instagram.com/p/COI_slphWJ_/ (Cyrchwyd: 13 Mehefin 2023).
Noder: Os na allwch ddod o hyd i deitl, yna dylid rhoi disgrifiad byr yn ei le.
Learn how to access library databases, take advantage of the functionality they offer, and devise a proper search technique.
