Mae adroddiad newydd a gyhoeddir yr wythnos hon yn archwilio rhai o’r heriau y mae tenantiaid mewn tai cymdeithasol yng Nghymru yn eu hwynebu o ganlyniad i gamau datgarboneiddio.
Mae Pontio Teg a Chyfartal? yn seiliedig ar gyfweliadau grŵp ffocws gyda thenantiaid tai cymdeithasol, ac yn alinio eu profiad â thrafodaethau cyfredol ar bolisi amgylcheddol yng Nghymru. Mae’n gydweithrediad rhwng Tai Pawb, elusen Gymreig cyfiawnder tai a chydraddoldeb, a’r Brifysgol Agored.
Lawrlwythwch gopi o'r adroddiad yma
Canfu’r tîm ymchwil y gallai technolegau carbon isel mewn llawer o achosion helpu tenantiaid i leihau biliau ynni, ond crëwyd dryswch ac hyd yn oed anghydraddoldebau mewn achosion eraill.
Arweiniwyd yr ymchwil gan Dr Vickie Cooper, Uwch Ddarlithydd mewn Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol yn y Brifysgol Agored. Dywedodd:
Bu’n bleser arwain ar yr ymchwil hwn a gweithio mewn partneriaeth gyda Thai Pawb. Mae’r astudiaeth hon yn dod â lleisiau ymylol i’r amlwg. Mae eu profiadau’n cyfrannu at y canfyddiadau ymchwil allweddol, casgliadau, ac argymhellion am dai carbon isel teg a chyfiawn ar gyfer tenantiaid amrywiol.
Darllenwch am ein cymwysterau a’n cyrsiau drwy ofyn am brosbectws heddiw