Oes gennych ddiddordeb yn y cyfryngau cymdeithasol? Neu yn y traw effaith y mae’n cael ar gymdeithas? Ydych chi eisiau gwybod mwy am sut i fynd i’r afael ar droliaid? Mae llwyfannau fel Twitter a Facebook yn ein galluogi i gyfathrebu gyda ffrindiau, teuluoedd a chydweithwyr pob dydd, ond nid ydynt heb broblemau. Gall negeseuon difrïol cael effaith dinistriol, yn enwedig ar bobl ifainc a phobl fregus.
Ymunwch â ni ar 5 Tachwedd ar gyfer y digwyddiad hwn sydd yn edrych ar ddefnydd y cyfryngau cymdeithasol a’r canlyniadau. Trwy gyfeirio at ymchwil sydd ar flaen y gad, gan Dr Kim Barker o Brifysgol Stirling a Dr Olga Jurasz o’r Brifysgol Agored, bydd y digwyddiad yn ffocysu ar ddau fater pwysig: defnydd y cyfryngau cymdeithasol a lles myfyrwyr; a'r cyfryngau cymdeithasol a thrais ar-lein yn erbyn menywod. Yn ogystal â dysgu am yr ymchwil newydd, bydd aelodau’r gynulleidfa hefyd yn cymryd rhan mewn dwy sgwrs banel gydag ysgolheigion, llunwyr polisi ac aelodau sefydliadau trydydd sector.
Siaradwyr yn cynnwys:
Leanne Wood AC
Gwyneth Sweatman, Llywydd UCM Cymru
Cerys Furlong, Prif Weithredwr Chwarae Teg
Gwendolyn Sterk, Cymorth i Ferched Cymru
Seyi Akiwowo, Glitch UK
Holly Powell-Jones (City University)
Digwyddiad am ddim yn hwn ond mae rhaid cofrestru o flaen llaw. Gallwch gadw eich lle.
Cefnogir y digwyddiad hwn gan ESRC fel rhan o Ŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol.
Explore our qualifications and courses by requesting one of our prospectuses today.