Ansicr ynghylch astudio’r llwybr cyflogedig neu’r llwybr rhan amser?
Ddim yn gwybod os yw eich cymwysterau neu brofiad presennol yn addas ar gyfer y cwrs?
Dewch i’n Diwrnod Agored TAR ar ddydd Mercher 19 Chwefror yn swyddfa’r Brifysgol Agored yng Nghymru yng Nghaerdydd. Does dim angen gwneud apwyntiad. Dewch draw am baned am ddim a sgwrs anffurfiol gydag aelod o'n tîm. Gallwn rannu mwy am sut mae dysgu gyda’r Brifysgol Agored yn gweithio a sut allwn eich cefnogi gyda’ch astudiaeth.
Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi
Am fwy o wybodaeth am y TAR, ewch i www.openuniversity.co.uk/cymru-tar
Explore our qualifications and courses by requesting one of our prospectuses today.