Yn ystyried dechrau astudio ym mis Hydref 2017 ac eisiau gwybod mwy am y Brifysgol Agored?
Rydym yn deall bod y penderfyniad i ddechrau astudio yn gallu bod yn anodd, felly hoffem eich gwahodd i un o’n Dyddiau Agored i ni gael ateb eich holl gwestiynau.
Dewch draw i gael sgwrs anffurfiol ac unigol gydag un o’n tiwtoriaid neu gynghorwyr myfyrwyr i drafod eich amcanion astudio ac ein hystod o gymwysterau. Gallwn ddweud mwy wrthych am sut mae dysgu gyda’r Brifysgol Agored yn gweithio a sut allwn ni eich cefnogi gyda’ch astudio. Gallwn hefyd eich helpu gyda’ch cam cyntaf tuag at gofrestru gyda ni a thrafod yr opsiynau cyllid a thalu sydd ar gael. Nid oes angen apwyntiad.
Edrychwn ymlaen at eich cyfarfod chi a thrafod sut all y Brifysgol Agored eich helpu.
Explore our qualifications and courses by requesting one of our prospectuses today.