Ymuno â Chynllun Graddedigion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gyfer y sesiwn hon a chael gwybod sut rydych chi'n ennill profiad gwaith â thâl, cymhwyster proffesiynol sydd wedi'i ariannu'n llawn a gwneud y gorau o'ch potensial
Archebwch eich lle: https://cardiffcapitalregion.cmail19.com/t/j-l-qdkshd-tkudjuhylt-r/
Mae Cynllun Graddedigion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cysylltu graddedigion talentog â busnesau uchelgeisiol o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (y 10 awdurdod lleol yn ne-ddwyrain Cymru).
Beth fydd yn cael sylw yn y sesiwn hon:
- Trosolwg o gynllun graddedigion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a'r hyn y gall ei gynnig i raddedigion
- Enghreifftiau o fusnesau sydd wedi hysbysebu gyda'r Cynllun
- Yr amrywiaeth a'r gwahanol fathau o rolau graddedig sydd ar gael
- Y broses ymgeisio a'r awgrymiadau gorau ar gyfer gwneud cais
- Ein hymateb i Covid-19 a sut mae busnesau yn ymateb
- Holi ac Ateb gyda Gerry a Laura, Swyddogion Datblygu Graddedig
Explore our qualifications and courses by requesting one of our prospectuses today.