Mae Dr Mark Brandon a Dr Philip Sexton wedi treulio blynyddoedd yn gweithio mewn moroedd ar draws y byd, gan gynnwys Antarctica, yr Iwerydd a’r Arctig. Yn fwy diweddar, roedd y ddau yn rhan o dîm cynhyrchu’r OU gan weithio ar Blue Planet II. Gyda’i gilydd byddant yn siarad am wyddoniaeth ein moroedd, y profiad o gynhyrchu, a sut y bu i wyddoniaeth a darganfod yrru’r rhaglen sydd wedi ennill gwobrau lu.
Cyrraedd am 6pm, darlith yn dechrau am 6:30pm, sicrhewch eich bod yn eistedd erbyn 6:25pm.
Cynhelir y ddarlith yn theatr Reardon Smith yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Peidiwch â defnyddio prif fynedfa’r amgueddfa, wrth i chi gyrraedd defnyddiwch fynedfa Park Place.
Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, ond mae angen tocyn, archebwch yma
Uchafswm o 2 docyn i bob unigolyn
Explore our qualifications and courses by requesting one of our prospectuses today.