
Gallwch chi ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru drwy addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Fel athrawon, nid addysgu yn unig yr ydym yn ei wneud; rydym yn ysbrydoli drwy'r straeon a rannwn a'r hunaniaethau a ddygwn i'r ystafell ddosbarth. Bydd rhaglen Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) gefnogol y Brifysgol Agored yng Nghymru yn eich paratoi i wneud gwahaniaeth i fywydau plant yng Nghymru.
Ymunwch â ni ar 4 Mawrth am noson agored ar-lein yn y Gymraeg lle bydd ein tîm TAR arbenigol yn egluro mwy am ein llwybrau TAR cyflogedig a rhan-amser unigryw y gellir eu hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r ddau lwybr wedi'u cynllunio i ganiatáu ichi astudio o amgylch eich bywyd ac ennill wrth ddysgu, gan eich galluogi i gydbwyso astudio â'ch ymrwymiadau presennol fel rhianta, gofalu a gweithio. Byddwch hefyd yn clywed gan rai o'n hathrawon myfyrwyr a phenaethiaid presennol o rai o'n hysgolion partner, a byddwch hefyd yn cael y cyfle i ofyn cwestiynau.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen.
Cofrestrwch: YBrifysgolAgoredTAR4Mawrth2026.eventbrite.co.uk
Darperir y digwyddiad hwn gan y Brifysgol Agored yng Nghymru ar y cyd gydag Addysgwyr Cymru.
Explore our qualifications and courses by requesting one of our prospectuses today.