Unit: Associate Lecturers/Part time tutors Salary: £38,249 Pro Rata Location: Various locations Please quote reference: STEM_TM351 London, South, Southwest, West Midlands, East Midlands, East of England, Yorkshire, Northwest, North, Wales, Scotland, Northern Ireland, Republic of Ireland, Southeast. Closing Date: 20 June, 2025 - 12:00
Part-Time: 0.09 FTE, 2 years fixed term
Change your career, change lives
The Open University is the UK’s largest university, a world leader in flexible part-time education combining a mission to widen access to higher education with research excellence, transforming lives through education.
The role
We are looking to recruit several Associate Lecturers in the areas of Data Analysis & Data Management in the School of Computing and Communications at the Open University.
The position is part-time (0.09) Full Time Equivalent, amounting on average to around ½ to 1 day per week and would involve teaching on one or more modules. There are immediate teaching needs on TM351 Data Management and Analysis and there is the possibility of teaching other modules within the School.
The position is home-based and has no fixed core hours. It is a two year fixed-term appointment, with a probation period of two years. The annual salary and workload are fixed, but there are significant workload peaks and troughs, mainly linked to providing marking and assessment feedback. This will include end of module marking tasks. Other tasks will be required such as focused student support (individual and forum), peer mentoring and working with the module team on assessment activities and quality improvement. Some evening and weekend work will be required. The appropriate level of FTE will be discussed at interview, and there is the possibility of increasing the FTE later. The starting full-time salary is £38,249 paid pro rata based on your FTE. Although most of the teaching occurs between October and June, the position is paid over the full calendar year.
The contract will start from October 2025.
Appointments to the position will be subject to student registrations.
Module description:
This module will provide students with a practical, legal and ethical understanding of how to access, query, manage and explore data collections, using traditional relational databases and contemporary NoSQL approaches. Using real-world datasets, standard software packages, data visualisation techniques and summarising data views, students will learn how to explore data collections in order to answer questions about the world and develop an appreciation of user needs surrounding data systems.
Person specification:
The person specification for this position should be read in conjunction with the generic person specification for an Associate Lecturer at The Open University. As well as meeting all the requirements set out in the generic person specification, and being enthusiastic and knowledgeable about data analysis and management as key skills for the 21st century you should have:
It would be an advantage to have:
Note that candidates with only traditional relational database management skills or experience of high level data manipulation tools are unlikely to be shortlisted for a role in teaching data management and analysis.
What you get in return
We have a strong commitment to providing training and development in and beyond your current role. To ensure they remain up to date with developments in their academic field, Associate Lecturers are allocated 6 days (pro-rata) per annum for AL-led (ie. self-directed) Academic Currency and 1 day, plus 5 days pro rata, per annum for Agreed Academic Currency and Professional Development.
Benefits include a supportive and friendly working environment, 27 days holiday per annum (pro rata) with variable (pro rata) Bank holidays and an attractive pensions proposition.
Tuition Delivery
It is expected that all tuition will be online though in the future some face to face teaching may be possible.
How to apply
An application form and job-related information are available from the links located below. You should indicate in your application which role(s) you wish to be considered for. Any queries regarding the application process please contact AL-Recruitment on AL-Recruitment@open.ac.uk, quoting the reference number STEM_TM351.
Job related information:
All candidates will be asked to provide proof of eligibility to work in the UK at interview.
The University is unable to offer visa sponsorship for this role as per the requirement laid out the UK Visas and Immigration regarding Right to Work in the UK.
To work with us you will need access to the internet.
Successful applicants will be required to undertake a DBS check or equivalent for their nation of residency. The Open University has a policy on the Recruitment of Ex-Offenders, a copy of which can be obtained on request by email to AL-Recruitment@open.ac.uk
Early closing date notification
We may close this job advert earlier than the published closing date where a satisfactory number of applications are received. We would therefore encourage early applications.
Email : AL-Recruitment@open.ac.uk
An application form and job-related information are available from the links located below. Hard copies and access details for disabled applicants are available from the Recruitment Co-ordinator by email (on the link above), quoting the reference number STEM_TM351.
The Open University is committed to equality, diversity and inclusion which is reflected in our mission to be open to people, places, methods and ideas. We aim to foster a diverse and inclusive environment so that all in our OU community can reach their potential. We recognise that different people bring different perspectives, ideas, knowledge, and culture, and that this difference brings great strength. We strive to recruit, retain and develop the careers of a diverse pool of students and staff, and particularly encourage applications from all underrepresented groups. We also aspire to make The Open University a supportive workplace for all through our policies, services and staff networks.
Uned: Darlithwyr Cyswllt
Cyflog: £38,249 Pro Rata
Dyfynnwch y cyfeirnod hwn: STEM_TM351
Lleoliad: Lleoliadau amrywiol
Patrwm Gwaith: 0.09 CALl, cyfnod penodol o 2 flynedd
Dyddiad cau: 20 Mehefin 2025 am 12 canol dydd
Newid eich gyrfa, newid bywydau
Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg.
Y rôl
Rydym yn awyddus i recriwtio nifer o Ddarlithwyr Cyswllt ym meysydd Dadansoddi Data a Rheoli Data yn Ysgol Cyfrifiadureg a Chyfathrebu Y Brifysgol Agored.
Swydd ran-amser yw hon (0.09 yn Gyfwerth ag Amser Llawn, sydd tua ½ i 1 diwrnod yr wythnos) a byddai'n cynnwys addysgu un modiwl neu fwy. Mae angen unigolion ar unwaith i addysgu TM351 Rheoli a Dadansoddi Data ac mae'n bosibl y byddwch yn addysgu modiwlau eraill yn yr Ysgol.
Mae'r swydd wedi'i lleoli gartref ac nid oes oriau craidd penodol. Mae'n benodiad tymor sefydlog dwy flynedd o hyd, gyda chyfnod prawf o ddwy flynedd. `Mae'r cyflog blynyddol a'r llwyth gwaith yn sefydlog, ond bydd cyfnodau pan fydd y llwyth gwaith yn sylweddol a chyfnodau eraill pan fydd y llwyth gwaith yn is; yn bennaf, bydd hyn yn gysylltiedig â rhoi adborth ar waith marcio ac asesu. Bydd hyn yn cynnwys tasgau marcio ar ddiwedd modiwlau. Bydd angen ymgymryd â thasgau eraill hefyd gan gynnwys rhoi cymorth sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr (yn unigol ac ar ffurf fforymau), mentora cymheiriaid a gweithio gyda thîm y modiwl ar weithgareddau asesu a gwella ansawdd. Bydd angen gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau o bryd i'w gilydd. Trafodir lefel briodol CALl yn ystod y cyfweliad, ac mae'n bosibl y bydd modd cynyddu'r CALl yn y dyfodol. Y cyflog llawn-amser cychwynnol yw £38,249 a delir ar sail pro rata yn ddibynnol ar eich CALl.Er mai rhwng mis Hydref a mis Mehefin y bydd y rhan fwyaf o'r gwaith addysgu, caiff y swydd ei thalu dros y flwyddyn galendr lawn.
Bydd y contract yn dechrau o fis Hydref 2025.
Bydd penodiadau i'r swydd yn dibynnu ar nifer y myfyrwyr sy'n cofrestru.
Disgrifiad o'r modiwl:
Bydd y modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth ymarferol, gyfreithiol a moesegol i fyfyrwyr o sut i gyrchu, ymholi, rheoli ac archwilio casgliadau data, gan ddefnyddio cronfeydd data perthynol traddodiadol a dulliau NoSQL cyfoes. Gan ddefnyddio setiau data go iawn, pecynnau meddalwedd safonol, technegau delweddu data a chrynhoi achosion o gyrchu ddata, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i archwilio casgliadau data er mwyn gallu ateb cwestiynau am y byd a datblygu gwerthfawrogiad o anghenion defnyddwyr o systemau data.
Manyleb person:
Dylid darllen y fanyleb person ar gyfer y swydd hon ar y cyd â'r fanyleb person gyffredinol ar gyfer Darlithydd Cyswllt yn Y Brifysgol Agored. Yn ogystal â bodloni'r holl ofynion a gaiff eu nodi ym manyleb gyffredinol y person, a bod yn frwdfrydig a gwybodus am ddadansoddi data a rheoli data, fel sgiliau allweddol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, dylech feddu ar y canlynol:
Byddai'n fanteisiol pe baech yn meddu ar y canlynol:
Noder ei bod yn annhebygol y caiff ymgeiswyr sydd ond yn meddu ar sgiliau rheoli cronfeydd data perthynol traddodiadol neu brofiad o ddulliau trin data ar lefel uwch eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer rôl addysgu rheoli a dadansoddi data.
Yr hyn a gewch yn ôl
Mae gennym ymrwymiad cadarn i ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd datblygu fel rhan o'ch rôl bresennol a thu hwnt. Er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf yn eu maes academaidd, dyrennir 6 diwrnod (pro rata) i Ddarlithwyr Cyswllt bob blwyddyn ar gyfer gweithgarwch academaidd (h.y. hunangyfeiriedig) ac 1 diwrnod, a 5 diwrnod pro rata, bob blwyddyn ar gyfer gweithgarwch academaidd y cytunwyd arno a datblygiad proffesiynol.
Mae'r buddiannau yn cynnwys amgylchedd gwaith cefnogol a chyfeillgar, 27 o ddiwrnodau o wyliau'r flwyddyn (pro rata), gyda gwyliau banc amrywiol (pro rata) a chynnig pensiwn deniadol.
Cyflwyno'r Dysgu
Disgwylir i'r holl addysgu fod ar-lein, ond gall rhywfaint o addysgu wyneb yn wyneb fod yn bosibl yn y dyfodol.
Sut i wneud cais
Mae ffurflen gais a gwybodaeth gyffredinol am y swydd ar gael drwy'r dolenni isod. Dylech nodi yn eich cais am ba rôl yr hoffech gael eich ystyried. Ar gyfer unrhyw ymholiadau am y broses gwneud cais, cysylltwch ag AL-Recruitment drwy anfon e-bost at AL-Recruitment@open.ac.uk, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod STEM_TM351
Gwybodaeth yn ymwneud â'r swydd
Ffurflen Gais |
Manyleb person generig |
Telerau ac Amodau |
Gofynnir i bob ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ei fod yn gymwys i weithio yn y DU yn y cyfweliad.
Ni all y Brifysgol gynnig nawdd am fisa ar gyfer y rôl hon, yn unol â'r gofyniad a nodir yn Fisâu a Mewnfudo y DU mewn perthynas â'r Hawl i Weithio yn y DU.
Er mwyn gweithio gyda ni, bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd arnoch.
Bydd yn ofynnol i'r ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) neu wiriad cyfatebol yn eu gwledydd preswyl. Mae gan Y Brifysgol Agored bolisi Recriwtio Cyn-Droseddwyr, a gellir cael copi o hwn ar gais drwy e-bostio AL-Recruitment@open.ac.uk
Hysbysiad dyddiad cau cynnar
Efallai y byddwn yn cau'r hysbyseb swydd hon yn gynharach na'r dyddiad cau a gyhoeddwyd os bydd nifer y ceisiadau a dderbyniwyd yn foddhaol. Felly, rydym yn annog ceisiadau cynnar.
E-bost: AL-Recruitment@open.ac.uk
Mae ffurflen gais a gwybodaeth gyffredinol am y swydd ar gael drwy'r dolenni isod. Mae copïau caled a manylion mynediad ar gyfer ymgeiswyr anabl ar gael oddi wrth y Cydlynydd Recriwtio drwy e-bost (ar y ddolen uchod), gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod uchod STEM_TM351.
Mae'r Brifysgol Agored yn ymrwymedig i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a adlewyrchir yn ein cenhadaeth i fod yn agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau. Ein nod yw meithrin amgylchedd amrywiol a chynhwysol fel y gall ein cymuned yn Y Brifysgol Agored gyflawni ei photensial.Rydym yn cydnabod bod pobl wahanol yn cyfrannu safbwyntiau, syniadau, gwybodaeth a diwylliant gwahanol a bod yr amrywiaeth hon yn gryfder. Rydym yn ymdrechu i recriwtio, cadw a datblygu gyrfaoedd cronfa amrywiol o fyfyrwyr a staff, ac yn arbennig yn annog ceisiadau gan bob grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym hefyd yn anelu at wneud Y Brifysgol Agored yn weithle cefnogol i bawb drwy ein polisïau, ein gwasanaethau a'n rhwydweithiau staff.
Visit the Open University careers site to see all roles.