Unit: Associate Lecturers/Part time tutors Salary: £38,249 Pro Rata Location: Various locations Please quote reference: STEM_SXPS288 London, South, Southwest, West Midlands, East Midlands, East of England, Yorkshire, Northwest, North, Wales, Scotland, Northern Ireland, Republic of Ireland, Southeast. Closing Date: 30 May, 2025 - 12:00
Change your career, change lives
The Open University is the UK’s largest university, a world leader in flexible part-time education combining a mission to widen access to higher education with research excellence, transforming lives through education.
The role
The School of Physical Sciences at the Open University is looking to recruit several Associate Lecturers with expertise in physics.
The position is part-time in the range of 0.1 to 0.4 FTE and would involve teaching one or more modules. There are likely to be a need across one or more the following modules.
SXPS288 Remote Experiments in physics and space 30 credits, level 2
SM380 Quantum physics 30 credits, level 3
SM381 Electromagnetism 30 credits, level 3
The position is home-based, has no fixed core hours. It is for 2 years in the first instance, with a probation period of two years. The annual salary and workload are fixed, but there are significant workload peaks and troughs, mainly linked to providing marking and assessment feedback. This is likely to include exam and end of module marking tasks. Other tasks will be required such as focused student support (individual and forum), peer mentoring and working with the module team on assessment activities and quality improvement. Some evening and weekend work will be required. The appropriate level of FTE will be discussed at interview, and there is the possibility of increasing the FTE later. The starting full-time salary is £38,249 paid pro rata based on your FTE. Although most of the teaching occurs between October and June, the position is paid over the full calendar year.
Contract will start from September 2025.
Appointments to the position will be subject to student registrations.
Person specification
The person specification for this position should be read in conjunction with the generic person specification for an Associate Lecturer at The Open University. As well as meeting all the requirements set out in the generic person specification, you should be able to provide evidence of the following:
A degree or equivalent in physics or a related subject.
Relevant subject knowledge from one or more of electromagnetism, quantum physics, astronomy, planetary sciences.
Evidence of recent physics teaching, preferably at undergraduate level.
The ability to explain fundamental concepts in physics.
The ability to teach mathematics at a level appropriate for physics.
The ability to teach appropriate study skills, including practical work and group work, and scientific communication.
The ability to support group-based experimental work.
A willingness to engage with computer programming and data processing tools (specifically Python).
The ability to support effective student learning in an online environment, using tools such as synchronous conferencing (e.g. Teams, Adobe Connect) and asynchronous communication (email and forums).
The ability to provide constructive feedback on assignments.
It would be an advantage to have:
A PhD, other higher degree or equivalent in a relevant subject.
Relevant postgraduate experience in physics or physics education.
Experience of teaching experimental science through virtual and remote experiments.
Experience of working with others to deliver teaching.
A teaching qualification in a relevant subject or AdvanceHE accreditation.
What you get in return
We have a strong commitment to providing training and development in and beyond your current role. To ensure they remain up to date with developments in their academic field, Associate Lecturers are allocated 6 days (pro-rata) per annum for AL-led (i.e. self-directed) Academic Currency and 1 day, plus 5 days pro rata, per annum for Agreed Academic Currency and Professional Development.
Benefits include a supportive and friendly working environment, 27 days holiday per annum (pro rata) with variable (pro rata) Bank holidays and an attractive pensions proposition.
Tuition Delivery
Predominantly online, but with a small number of face-to-face day schools/tutorials for some modules
How to apply
An application form and job-related information are available from the links located below. Any queries regarding the application process please contact AL-Recruitment on AL-Recruitment@open.ac.uk quoting the reference number STEM_SXPS288.
Job related information:
All candidates will be asked to provide a proof of eligibility to work in the UK at interview.
The University is unable to offer visa sponsorship for this role as per the requirement laid out the UK Visas and Immigration regarding Right to Work in the UK.
To work with us you will need access to the internet.
Successful applicants will be required to undertake a DBS check or equivalent for their nation of residency.
Early closing date notification
We may close this job advert earlier than the published closing date where a satisfactory number of applications are received. We would therefore encourage early applications.
Email : AL-Recruitment@open.ac.uk
An application form and job related information are available from the links located below. Hard copies and access details for disabled applicants are available by request to the email above, quoting the reference number STEM_SXPS288
The Open University is committed to equality, diversity and inclusion which is reflected in our mission to be open to people, places, methods and ideas. We aim to foster a diverse and inclusive environment so that all in our OU community can reach their potential. We recognise that different people bring different perspectives, ideas, knowledge, and culture, and that this difference brings great strength. We strive to recruit, retain and develop the careers of a diverse pool of students and staff, and particularly encourage applications from all underrepresented groups. We also aspire to make The Open University a supportive workplace for all through our policies, services and staff networks.
Uned: Darlithwyr Cyswllt
Cyflog: £38,249 Pro Rata
Dyfynnwch y cyfeirnod hwn: STEM_SXPS288
Lleoliad: Lleoliadau amrywiol
Patrwm Gwaith: Bydd y swydd hon yn yr ystod 0.1 i 0.4 Cyfwerth ag Amser Llawn (CALl)
Dyddiad cau: Canol dydd, 30 Mai 2025
Newid eich gyrfa, newid bywydau
Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg.
Y rôl
Mae Ysgol y Gwyddorau Ffisegol yn Y Brifysgol Agored yn awyddus i recriwtio nifer o Ddarlithwyr Cyswllt sy'n arbenigo mewn ffiseg.
Swydd ran-amser yw hon yn yr ystod 0.1 i 0.4 CALl a bydd angen addysgu un modiwl neu fwy. Mae'n debygol y bydd angen addysgu un neu fwy o'r modiwlau canlynol.
SXPS288 Arbrofion o Bell mewn ffiseg a'r gofod 30 o gredydau, lefel 2
SM380 Ffiseg cwantwm 30 o gredydau, lefel 3
SM381 Electromagnetedd 30 o gredydau, lefel 3
Mae'r swydd wedi'i lleoli gartref, nid oes oriau craidd penodol. Mae'n swydd am 2 flynedd i ddechrau, gyda chyfnod prawf o ddwy flynedd. Mae'r cyflog blynyddol a'r llwyth gwaith yn sefydlog, ond bydd cyfnodau pan fydd y llwyth gwaith yn sylweddol a chyfnodau eraill pan fydd y llwyth gwaith yn is; yn bennaf, bydd hyn yn gysylltiedig â rhoi adborth ar waith marcio ac asesu. Mae hyn yn debygol o gynnwys tasgau marcio arholiadau a diwedd modiwlau. Bydd angen ymgymryd â thasgau eraill hefyd gan gynnwys rhoi cymorth sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr (yn unigol ac ar ffurf fforymau), mentora cymheiriaid a gweithio gyda thîm y modiwl ar weithgareddau asesu a gwella ansawdd. Bydd angen gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau o bryd i'w gilydd. Trafodir lefel briodol CALl yn ystod y cyfweliad, ac mae'n bosibl y bydd modd cynyddu'r CALl yn y dyfodol. Y cyflog llawnamser cychwynnol yw £38,249 a delir ar sail pro rata yn ddibynnol ar eich CALl.Er mai rhwng mis Hydref a mis Mehefin y bydd y rhan fwyaf o'r gwaith addysgu, caiff y swydd ei thalu dros y flwyddyn galendr lawn.
Bydd y contract yn dechrau ym mis Medi 2025.
Bydd penodiadau i'r swydd yn dibynnu ar nifer y myfyrwyr sy'n cofrestru.
Manyleb person
Dylid darllen y fanyleb person ar gyfer y swydd hon ar y cyd â'r fanyleb person gyffredinol ar gyfer Darlithydd Cyswllt yn Y Brifysgol Agored. Yn ogystal â bodloni'r holl ofynion a nodir yn y fanyleb person gyffredinol, dylech allu darparu tystiolaeth o'r canlynol:
Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn ffiseg neu bwnc cysylltiedig.
Gwybodaeth pwnc berthnasol o un neu fwy o'r canlynol: electromagnetedd, ffiseg cwantwm, seryddiaeth, gwyddorau'r planedau.
Tystiolaeth o addysgu gwyddoniaeth yn ddiweddar, yn ddelfrydol ar lefel israddedig.
Y gallu i egluro cysyniadau sylfaenol mewn ffiseg.
Y gallu i addysgu mathemateg ar lefel sy'n briodol ar gyfer ffiseg.
Y gallu i addysgu sgiliau astudio priodol, gan gynnwys gwaith ymarferol a gwaith grŵp a chyfathrebu gwyddonol.
Y gallu i gefnogi gwaith arbrofol mewn grwpiau.
Parodrwydd i ddefnyddio adnoddau rhaglennu cyfrifiadurol a phrosesu data (yn benodol Python).
Y gallu i gefnogi gwaith dysgu myfyrwyr yn effeithiol mewn amgylchedd ar-lein, gan ddefnyddio offer fel cynadledda cydamserol (e.e. Teams, Adobe Connect) ac offer cyfathrebu anghydamseredig (e-byst a fforymau).
Y gallu i roi adborth adeiladol ar aseiniadau.
Byddai'n fanteisiol pe baech yn meddu ar y canlynol:
Gradd PhD, gradd uwch arall neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
Profiad ôl-raddedig perthnasol mewn ffiseg neu addysg ffiseg.
Profiad o addysgu gwyddoniaeth arbrofol drwy arbrofion rhithwir ac o bell.
Profiad o weithio gydag eraill i addysgu.
Cymhwyster addysgu mewn pwnc perthnasol neu achrediad gan yr Academi Addysg Uwch.
Yr hyn a gewch yn ôl
Mae gennym ymrwymiad cadarn i ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd datblygu fel rhan o'ch rôl bresennol a thu hwnt. Er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf yn eu maes academaidd, dyrennir 6 diwrnod (pro rata) i Ddarlithwyr Cyswllt bob blwyddyn ar gyfer gweithgarwch academaidd (h.y. hunangyfeiriedig) ac 1 diwrnod, a 5 diwrnod pro rata, bob blwyddyn ar gyfer gweithgarwch academaidd y cytunwyd arno a datblygiad proffesiynol.
Mae'r buddiannau yn cynnwys amgylchedd gwaith cefnogol a chyfeillgar, 27 o ddiwrnodau o wyliau'r flwyddyn (pro rata), gyda gwyliau banc amrywiol (pro rata) a chynnig pensiwn deniadol.
Cyflwyno'r Dysgu
Ar-lein yn bennaf ond gyda nifer bach o ysgolion dydd/tiwtorialau wyneb yn wyneb ar gyfer rhai modiwlau
Sut i wneud cais
Mae ffurflen gais a gwybodaeth gyffredinol am y swydd ar gael drwy'r dolenni isod. Ar gyfer unrhyw ymholiadau am y broses gwneud cais, cysylltwch ag AL-Recruitment ar AL-Recruitment@open.ac.uk, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod STEM_SXPS288.
Gwybodaeth yn ymwneud â'r swydd:
Ffurflen Gais |
Manyleb person generig |
Telerau ac Amodau |
Gofynnir i bob ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ei fod yn gymwys i weithio yn y DU yn y cyfweliad.
Ni all y Brifysgol gynnig nawdd am fisa ar gyfer y rôl hon, yn unol â'r gofyniad a nodir yn Fisâu a Mewnfudo y DU mewn perthynas â'r Hawl i Weithio yn y DU.
Er mwyn gweithio gyda ni, bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd arnoch.
Bydd gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd neu wiriad cyfatebol yn eu gwledydd preswyl.
Hysbysiad dyddiad cau cynnar
Efallai y byddwn yn cau'r hysbyseb swydd hon yn gynharach na'r dyddiad cau a gyhoeddwyd os bydd nifer y ceisiadau a dderbyniwyd yn foddhaol. Felly, rydym yn annog ceisiadau cynnar.
E-bost: AL-Recruitment@open.ac.uk
Mae ffurflen gais a gwybodaeth gyffredinol am y swydd ar gael drwy'r dolenni isod. Mae copïau caled a manylion mynediad ar gyfer ymgeiswyr anabl ar gael drwy anfon cais i'r cyfeiriad e-bost uchod, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod STEM_SXPS288.
Mae'r Brifysgol Agored yn ymrwymedig i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a adlewyrchir yn ein cenhadaeth i fod yn agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau. Ein nod yw meithrin amgylchedd amrywiol a chynhwysol fel y gall ein cymuned yn Y Brifysgol Agored gyflawni ei photensial.Rydym yn cydnabod bod pobl wahanol yn cyfrannu safbwyntiau, syniadau, gwybodaeth a diwylliant gwahanol a bod yr amrywiaeth hon yn gryfder. Rydym yn ymdrechu i recriwtio, cadw a datblygu gyrfaoedd cronfa amrywiol o fyfyrwyr a staff, ac yn arbennig yn annog ceisiadau gan bob grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym hefyd yn anelu at wneud Y Brifysgol Agored yn weithle cefnogol i bawb drwy ein polisïau, ein gwasanaethau a'n rhwydweithiau staff.
Visit the Open University careers site to see all roles.