Associate Lecturers in Computing and Communications TM358

Unit:  Associate Lecturers/Part time tutors
Salary:  £38,249 Pro Rata
Location:  Various locations
Please quote reference:  STEM_TM358
London, South, Southwest, West Midlands, East Midlands, East of England, Yorkshire, Northwest, North, Wales, Scotland, Northern Ireland, Republic of Ireland, Southeast
Closing Date:  12 June, 2025 - 12:00

Hysbyseb iaith Gymraeg

 

 

How to Apply

 

Part-Time: 0.087 FTE, 2 years fixed term

Change your career, change lives

The Open University is the UK’s largest university, a world leader in flexible part-time education combining a mission to widen access to higher education with research excellence, transforming lives through education.

The role

We are looking to recruit several Associate Lecturers in the area of Machine Learning and Artificial Intelligence, in the School of Computing and Communications at the Open University.

The position is part-time at 0.087 FTE, initially up to 0.1 FTE with the possibility of teaching other modules within the School.

The role is part-time and will involve teaching one or more modules in the area of Machine Learning and Artificial Intelligence. In particular, there are immediate teaching needs on the final year module TM358 Machine Learning and Artificial Intelligence.

The position is home-based and has no fixed core hours. It is a two year fixed-term appointment, with a probation period. The annual salary and workload are fixed, but there are significant workload peaks and troughs, mainly linked to providing marking and assessment feedback. This is likely to include exam and end of module marking tasks. Other tasks will be required such as focused student support (individual and forum), such as peer mentoring and working with the module team on assessment activities and quality improvement. Some evening and weekend work will be required. The appropriate level of FTE will be discussed at interview, and there is the possibility of increasing the FTE later. The starting full-time salary is £38,249 paid pro rata based on your FTE. Although most of the teaching occurs between October and June, the position is paid over the full calendar year.

The contract will start from 1st October 2025.

Appointments to the position will be subject to student registrations

Person specification:

The person specification for this position should be read in conjunction with the generic person specification for an Associate Lecturer at The Open University.  As well as meeting all the requirements set out in the generic person specification, you should have:

  • A degree with significant computing and IT content,
  • Formal knowledge of Recurrent Neural Networks, deep learning and LLMs,
  • Experience of working in machine learning and/or AI in any public, private or third sector work, including education,
  • Some experience of using Jupyter notebooks/Jupyter Lab, or, if not, good knowledge of Python,
  • Experience of teaching online or an understanding of the pedagogical issues surrounding online teaching.

It would be an advantage to have:

  • A higher degree or Ph.D. (or equivalent),
  • Knowledge or expertise in any of the following areas; ethics of data use in machine learning, generative pre-trained transformers, teaching using Jupyter, notebooks/Jupyter Lab, teaching computing in HE to statisticians and computer scientists,
  • Evidence of having taken the initiative to deliver better teaching and learning or training,
  • A teaching qualification in a relevant subject or HEA accreditation.

To read more about being an OU tutor in the School of Computing and Communications please see this Badged Open Course Being an OU Tutor in STEM: Computing and Communications

 

What you get in return

We have a strong commitment to providing training and development in and beyond your current role. To ensure they remain up to date with developments in their academic field, Associate Lecturers are allocated 6 days (pro-rata) per annum for AL-led (i.e. self-directed) Academic Currency and 1 day, plus 5 days pro rata, per annum for Agreed Academic Currency and Professional Development. 

Benefits include a supportive and friendly working environment, 27 days holiday per annum (pro rata) with variable (pro rata) Bank holidays and an attractive pensions proposition.

Tuition Delivery
online

 

How to apply

An application form and job-related information are available from the links located below. Any queries regarding the application process please contact AL-Recruitment on AL-Recruitment@open.ac.uk, quoting the reference number STEM_TM358

Job related information:

AL Application Form

Generic Person Specification

Terms and Conditions

All candidates will be asked to provide proof of eligibility to work in the UK at interview.

The University is unable to offer visa sponsorship for this role as per the requirement laid out in the UK Visas and Immigration regarding Right to Work in the UK. The Open University has a policy on the Recruitment of Ex-Offenders, a copy of which can be obtained on request by email to AL-Recruitment@open.ac.uk

To work with us you will need access to the internet.

Successful applicants will be required to undertake a DBS check or equivalent for their nation of residency. 

Early closing date notification  
We may close this job advert earlier than the published closing date where a satisfactory number of applications are received. We would therefore encourage early applications.  

Email : AL-Recruitment@open.ac.uk

An application form and job related information are available from the links located below.  Hard copies and access details for disabled applicants are available by request to the email above, quoting the reference number STEM_TM358.

The Open University is committed to equality, diversity and inclusion which is reflected in our mission to be open to people, places, methods and ideas. We aim to foster a diverse and inclusive environment so that all in our OU community can reach their potential.  We recognise that different people bring different perspectives, ideas, knowledge, and culture, and that this difference brings great strength.  We strive to recruit, retain and develop the careers of a diverse pool of students and staff, and particularly encourage applications from all underrepresented groups. We also aspire to make The Open University a supportive workplace for all through our policies, services and staff networks.

 

 

Darlithwyr Cyswllt Cyfrifiadura a Chyfathrebu TM358

Uned: Darlithwyr Cyswllt  
Cyflog: £38,249 Pro Rata 
Dyfynnwch y cyfeirnod hwn: STEM_TM358
Lleoliad: Lleoliadau amrywiol 
Patrwm Gwaith: 0.087 CALl, cyfnod penodol o 2 flynedd
Dyddiad cau:  12 Mehefin 2025 am 12 canol dydd 

 

Newid eich gyrfa, newid bywydau

Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg.

Y rôl

Rydym yn awyddus i recriwtio nifer o Ddarlithwyr Cyswllt ym maes Dysgu Peirianyddol a Deallusrwydd Artiffisial, yn Ysgol Cyfrifiadureg a Chyfathrebu'r Brifysgol Agored.

Mae'r swydd hon yn un rhan amser ar 0.087 CALl, i ddechrau hyd at 0.1 CALl, gyda'r posibilrwydd o addysgu modiwlau eraill yn yr Ysgol.

Rôl rhan amser yw hon a bydd yn cynnwys dysgu un neu fwy o fodiwlau ym maes Dysgu Peirianyddol a Deallusrwydd Artiffisial. Yn benodol, mae angen unigolion ar unwaith i addysgu ar y modiwl blwyddyn olaf TM358 Dysgu Peirianyddol a Deallusrwydd Artiffisial. 

Mae'r swydd wedi'i lleoli gartref ac nid oes oriau craidd penodol. Mae'n benodiad tymor sefydlog dwy flynedd, gyda chyfnod prawf. Mae'r cyflog blynyddol a'r llwyth gwaith yn sefydlog, ond bydd cyfnodau pan fydd y llwyth gwaith yn sylweddol a chyfnodau eraill pan fydd y llwyth gwaith yn is; yn bennaf, bydd hyn yn gysylltiedig â rhoi adborth ar waith marcio ac asesu. Mae hyn yn debygol o gynnwys tasgau marcio arholiadau a diwedd modiwlau. Bydd angen ymgymryd â thasgau eraill hefyd gan gynnwys rhoi cymorth sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr (yn unigol ac ar ffurf fforymau), megis mentora cymheiriaid a gweithio gyda tîm y modiwl ar weithgareddau asesu a gwella ansawdd. Bydd angen gweithio gyda'r nos ac ar benwythnosau o bryd i'w gilydd. Trafodir lefel briodol CALl yn ystod y cyfweliad, ac mae'n bosibl y bydd modd cynyddu'r CALl yn y dyfodol. Y cyflog llawnamser cychwynnol yw £38,249  a delir ar sail pro rata yn seiliedig ar eich CALl.Er mai rhwng mis Hydref a mis Mehefin y bydd y rhan fwyaf o'r gwaith addysgu, caiff y swydd ei thalu dros y flwyddyn galendr lawn.

Bydd y contract yn dechrau o 1 Hydref 2025.

Bydd penodiadau i'r swydd yn dibynnu ar nifer y myfyrwyr sy'n cofrestru. 

 

Manyleb person: 

 

Dylid darllen y fanyleb person ar gyfer y swydd hon ar y cyd â'r fanyleb person gyffredinol  ar gyfer Darlithydd Cyswllt yn Y Brifysgol Agored. Yn ogystal â bodloni'r holl ofynion a nodir yn y fanyleb person gyffredinol, dylech feddu ar y canlynol:

 

  • Gradd â chynnwys cyfrifiadureg a TG sylweddol,
  • Gwybodaeth ffurfiol am Rwydweithiau Niwral Rheolaidd, dysgu dwfn a LLMs,
  • Profiad o weithio mewn dysgu peirianyddol a/neu Deallusrwydd Artiffisial mewn unrhyw waith cyhoeddus, preifat neu drydydd sector, gan gynnwys ym maes addysg,
  • Rhywfaint o brofiad o ddefnyddio llyfrau cofnodi Jupyter/Labordy Jupyter, neu os na, gwybodaeth dda am Python,
  • Profiad o addysgu ar-lein neu ddealltwriaeth o'r materion addysgegol sy'n gysylltiedig ag addysgu ar-lein.

 

Byddai'n fanteisiol pe baech yn meddu ar y canlynol:

 

  • Gradd uwch neu PhD. (neu gymhwyster cyfatebol),
  • Gwybodaeth neu arbenigedd mewn unrhyw un o'r meysydd canlynol; moeseg defnyddio data mewn dysgu peirianyddol, newidyddion cynhyrchiol wedi'i hyfforddi'n barod, addysgu gan ddefnyddio llyfrau cofnodi Jupyter/Labordy Jupyter, addysgu cyfrifiadureg yn y maes addysg uwch i ystadegwyr a gwyddonwyr cyfrifiadurol,
  • Tystiolaeth o fod yn flaengar er mwyn gwella prosesau addysgu a dysgu, neu hyfforddiant,
  • Cymhwyster addysgu mewn pwnc perthnasol neu achrediad yr Academi Addysg Uwch.

 

Er mwyn darllen mwy am fod yn diwtor gyda'r Brifysgol Agored yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Chyfathrebu, gweler y Cwrs Agored Bathodynnog hwn Bod yn Diwtor Y Brifysgol Agored mewn STEM: Cyfrifiadureg a Chyfathrebu

 

Yr hyn a gewch yn ôl

Mae gennym ymrwymiad cadarn i ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd datblygu fel rhan o'ch rôl bresennol a thu hwnt. Er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf yn eich maes academaidd, dyrennir 6 diwrnod (pro rata) i Ddarlithwyr Cyswllt bob blwyddyn ar gyfer gweithgarwch academaidd (hunangyfeiriedig) ac 1 diwrnod, a 5 diwrnod pro rata, bob blwyddyn ar gyfer gweithgarwch academaidd y cytunwyd arno a datblygiad proffesiynol. 

Mae'r buddiannau yn cynnwys amgylchedd gwaith cefnogol a chyfeillgar, 27 o ddiwrnodau o wyliau'r flwyddyn (pro rata), gyda gwyliau banc amrywiol (pro rata) a chynnig pensiwn deniadol.

Cyflwyno'r Dysgu
Ar-lein yn unig

 

Sut i wneud cais

Mae ffurflen gais a gwybodaeth gyffredinol am y swydd ar gael drwy'r dolenni isod. Ar gyfer unrhyw ymholiadau am y broses gwneud cais, cysylltwch ag AL-Recruitment ar AL-Recruitment@open.ac.uk, gan ddyfynnu'r cyfeirnod STEM_TM358.

 

Gwybodaeth yn ymwneud â'r swydd:

Ffurflen Gais 

Manyleb person generig 

Telerau ac Amodau 

 

Gofynnir i bob ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ei fod yn gymwys i weithio yn y DU yn y cyfweliad.

Ni all y Brifysgol gynnig nawdd am fisa ar gyfer y rôl hon, yn unol â'r gofyniad a nodir yn Fisâu a Mewnfudo y DU mewn perthynas â'r Hawl i Weithio yn y DU.

Er mwyn gweithio gyda ni, bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd arnoch.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) neu wiriad cyfatebol yn eu gwledydd preswyl. Mae gan Y Brifysgol Agored bolisi Recriwtio Cyn-Droseddwyr, a gellir cael copi o hwn ar gais drwy e-bostio AL-Recruitment@open.ac.uk 

Hysbysiad dyddiad cau cynnar
Efallai y byddwn yn cau'r hysbyseb swydd hon yn gynharach na'r dyddiad cau a gyhoeddwyd os bydd nifer y ceisiadau a dderbyniwyd yn foddhaol. Felly, rydym yn annog ceisiadau cynnar. 

 

E-bost: AL-Recruitment@open.ac.uk 

Mae ffurflen gais a gwybodaeth gyffredinol am y swydd ar gael drwy'r dolenni isod. Mae copïau caled a manylion mynediad ar gyfer ymgeiswyr anabl ar gael oddi wrth y Cydlynydd Recriwtio drwy e-bost (ar y ddolen uchod), gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod STEM_TM358.


Mae'r Brifysgol Agored yn ymrwymedig i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a adlewyrchir yn ein cenhadaeth i fod yn agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau. Ein nod yw meithrin amgylchedd amrywiol a chynhwysol fel y gall ein cymuned yn Y Brifysgol Agored gyflawni ei photensial.Rydym yn cydnabod bod pobl wahanol yn cyfrannu safbwyntiau, syniadau, gwybodaeth a diwylliant gwahanol a bod yr amrywiaeth hon yn gryfder.Rydym yn ymdrechu i recriwtio, cadw a datblygu gyrfaoedd cronfa amrywiol o fyfyrwyr a staff, ac yn arbennig yn annog ceisiadau gan bob grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym hefyd yn anelu at wneud Y Brifysgol Agored yn weithle cefnogol i bawb drwy ein polisïau, ein gwasanaethau a'n rhwydweithiau staff.   

 



Posting Date:  22 May, 2025 - 12:00

Search all roles

Visit the Open University careers site to see all roles.